SL(6)124 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021

Cefndir a Diben

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (“Deddf 1984”) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Gwneir Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021  (“y Rheoliadau”) drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf 1984 mewn ymateb i'r bygythiad i iechyd y cyhoedd a achosir gan fynychder a lledaeniad COVID-19.

Mae’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (“y prif Reoliadau”).

Mae'r Rheoliadau yn diwygio'r prif Reoliadau, gan ddod i rym o 6:00 a.m. ar 26 Rhagfyr 2021 ymlaen, fel bod y sefyllfa fel a ganlyn:

·         mae Cymru gyfan yn symud o Lefel Rhybudd 0 i Lefel Rhybudd 2, gan olygu bod y cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlen 2 i’r prif Reoliadau yn cymryd effaith;

·         mae’n ofynnol i bersonau sy’n gyfrifol am “fangre reoleiddiedig” (h.y. gweithleoedd, mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd a cherbydau trafnidiaeth gyhoeddus) gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng personau yn y fangre, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp a ganiateir sy’n cynnwys 6 pherson ar y mwyaf neu aelodau o’r un aelwyd ar Lefelau Rhybudd 1 a 2, neu aelodau o’r un aelwyd ar Lefelau Rhybudd 3 a 4;

·         wrth benderfynu i ba raddau y mae’n rhesymol cymryd mesur penodol er mwyn sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre, caiff y person sy’n gyfrifol am y fangre roi sylw i fesurau eraill a gymerwyd i liniaru’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre;

·         mae darpariaeth benodol yn cael ei gwneud ynglŷn â’r mesurau sy’n rhaid eu cymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre drwyddedig, gan gynnwys gofyniad i reoli mynediad i’r fangre ac i gwsmeriaid fod ar eu heistedd pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod (yn amodol ar rai eithriadau);

 

·         mae darpariaeth benodol yn cael ei gwneud ynglŷn â’r mesurau sy’n rhaid eu cymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre manwerthu, gan gynnwys gofyniad i reoli mynediad i’r fangre, i ddarparu cynhyrchion diheintio dwylo, i gymryd mesurau ychwanegol i ddiheintio basgedi a throlïau etc., ac i ddarparu arwyddion a gwneud cyhoeddiadau i atgoffa pobl o’r rheol 2 fetr ac i wisgo gorchudd wyneb;

·         mae’n rhaid gwisgo gorchuddion wyneb mewn mangreoedd lle caiff bwyd neu ddiod eu gwerthu, neu eu darparu fel arall, i’w bwyta ac i’w yfed yn y fangre, ac eithrio wrth eistedd;

·         dylid trin pobl sy’n chwarae mewn digwyddiad camp tîm neu sy’n ymwneud â hyfforddi tîm mewn digwyddiad fel pe baent yn gweithio yn y digwyddiad ac nid ydynt yn cyfrif tuag at unrhyw derfyn ar niferoedd yn y digwyddiad (yn yr un modd ag y mae dyfarnwyr ac eraill sy’n ymwneud â rhedeg y digwyddiad);

·         mae’r cyfyngiadau ar ymgynnull mewn anheddau preifat ac mewn llety gwyliau wedi eu dileu, gan ei bod yn ddarostyngedig iddi fod yn drosedd cymryd rhan mewn cynulliad o fwy na 30 o bobl o dan do neu fwy na 50 o bobl y tu allan yn y lleoliadau hyn;

·         mae’r eithriad i’r cyfyngiad ar ddigwyddiadau yn cael ei newid i alluogi unrhyw nifer o bobl i fynd i ddathliad priodas neu bartneriaeth sifil neu ddathliad person a fu farw yn ddiweddar a gynhelir mewn mangre reoleiddiedig (yn ddarostyngedig i’r uchafswm niferoedd a ganiateir yn y fangre yn unol â’r asesiad risg a mesurau rhesymol eraill a gaiff eu cymryd o dan reoliad 16 o’r prif Reoliadau);

·         mae lleoliadau adloniant i oedolion a rhinciau sglefrio iâ wedi eu hepgor o’r rhestr o fusnesau y mae’n rhaid i’w mangreoedd gau.  (Mae'r busnesau y mae'n rhaid iddynt gau yn cynnwys clybiau nos, disgos, neuaddau dawns neu leoliadau eraill sydd wedi'u hawdurdodi i werthu neu gyflenwi alcohol lle darperir cerddoriaeth fyw neu gerddoriaeth wedi'i recordio ar gyfer y cyhoedd neu aelodau o'r lleoliad i ddawnsio.)

Y weithdrefn

Gwneud cadarnhaol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Rhaid i'r Senedd gymeradwyo'r Rheoliadau o fewn 28 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd wedi’i diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gwnaed er mwyn iddynt barhau i gael effaith.

 

 

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pedwar pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Yn benodol, nodwn y canlynol yn y Memorandwm Esboniadol:

“Er bod y prif Reoliadau, fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, yn cyffwrdd â hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, mae’r Llywodraeth o’r farn bod modd eu cyfiawnhau er mwyn atal lledaeniad clefydau heintus a/neu fod hawl i wneud yr ymyriad ar y sail ei fod yn ceisio cyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd, a’u bod yn gymesur.

Mae Erthygl 5 (yr hawl i ryddid), Erthygl 8 (yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol), Erthygl 9 (rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd), Erthygl 11 (rhyddid i ymgynnull a chymdeithasu) ac Erthygl 1 o’r Protocol Cyntaf (diogelu eiddo) yn cael eu cyffwrdd gan y prif Reoliadau.

Mae pob un o’r rhain yn hawliau amodol, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru ymyrryd ag arfer yr hawliau os oes angen gwneud hynny mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch y cyhoedd neu er mwyn diogelu iechyd. Rhaid cyfiawnhau’r holl gyfyngiadau a gofynion o’r fath ar y sail mai eu bwriad yw cyflawni nod cyfreithlon, sef diogelu iechyd y cyhoedd, a’u bod yn gymesur. Hefyd, mae angen cydbwyso unrhyw ymyrraeth â’r hawliau hyn â rhwymedigaethau cadarnhaol y wladwriaeth o dan Erthygl 2 (yr hawl i fywyd). Mae addasu’r cyfyngiadau a’r gofynion o dan y prif Reoliadau drwy’r Rheoliadau hyn yn ymateb cymesur i ledaeniad y coronafeirws. Mae’n cydbwyso’r angen i gynnal ymateb priodol i’r bygythiad a berir gan y coronafeirws yn erbyn hawliau unigolion a busnesau, mewn modd sy’n parhau’n gymesur â’r angen i leihau cyfradd trosglwyddo’r coronafeirws, gan ystyried y dystiolaeth wyddonol.”

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“O ystyried y bygythiad parhaus sy’n deillio o’r coronafeirws a’r angen am ymateb iechyd cyhoeddus prydlon, nid oes ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Serch hynny, ymgysylltwyd â rhanddeiliaid amrywiol gan gynnwys Is-adran Cydraddoldebau Llywodraeth Cymru.”

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn nad yw asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i lunio eto mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn oherwydd bod angen eu rhoi ar waith i ymateb i fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd. Fodd bynnag, mae asesiadau effaith cryno yn cael eu llunio a fydd yn cynnwys effaith symud Cymru i Lefel Rhybudd 2.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

5 Ionawr 2022